Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2019
Amser:
09.00 -
09.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5289
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaeth Gwaed Cymru i rannu'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebwyr a gofyn:
· pa ystyriaeth a roddwyd i rinweddau penodol ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus mewn perthynas â sepsis;
· am wybodaeth am yr amserlen ar gyfer datblygu cofrestr sepsis yng Nghymru; ac
· am ei farn ynghylch galwad y deisebwyr am strategaeth ar gyfer goroeswyr a theuluoedd sy'n dioddef yn sgil sepsis.
· am fanylion eu gwaith parhaus mewn perthynas â sepsis, gan gynnwys datblygu cofrestr sepsis; a'r
· potensial ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o sepsis ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· aros i gael barn y deisebydd ynghylch ymateb y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth; ac
· ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog er mwyn:
· gofyn am ddiweddariad ar ganlyniad y cyfarfod rhwng swyddogion, y cyngor cymuned a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol;
· gofyn pa fesurau y gellid eu cymryd i ddiogelu'r murlun yn ffisegol; a
· gofyn am wybodaeth ychwanegol am yr ystyriaeth flaenorol a roddwyd ynghylch a yw'r murlun yn bodloni'r meini prawf ar gyfer rhestru neu ddynodi fel heneb gofrestredig, a pha ystyriaeth a roddwyd i ddiweddaru'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer rhestru adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
Cytunodd y Pwyllgor i:
· ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr adolygiad cyflenwi tai drwy'r system gynllunio, syniad o'r amserlenni ar gyfer cwblhau'r adolygiad, a chadarnhad y bydd paragraff 6.2 TAN 1 yn parhau i fod wedi'i ddatgymhwyso yn ystod y cyfnod hwnnw; ac
· ystyried cynnal sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog ar sawl deiseb sy'n gysylltiedig â chynllunio mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach am y ddeiseb a chytunodd i gadw'r ddeiseb nes bod modd cynnal sesiwn dystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar sawl deiseb sy'n gysylltiedig â chynllunio.
Trafododd y Pwyllgor y camau gweithredu perthnasol yn 'Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' Llywodraeth Cymru a chytunodd i:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan riant arall ond, yng ngoleuni'r pwerau presennol sydd gan benaethiaid i ddatgymhwyso agweddau ar y Cwricwlwm Cenedlaethol dros dro, gan gynnwys y posibilrwydd o eithrio pynciau penodol dros dro, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch canlyniad yr ymarfer peilot diweddar yn Sir Benfro, ac am unrhyw farn y mae Llywodraeth Cymru wedi dod iddi ynghylch y potensial ar gyfer ei weithredu'n ehangach.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan nifer o awdurdodau lleol a'r deisebwyr, a chytunodd i ysgrifennu eto i ofyn am yr ymatebion sydd i ddod gan awdurdodau lleol fel mater o flaenoriaeth.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg am y ddeiseb hon a P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd, a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am y wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg cyn penderfynu a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y deisebau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg am y ddeiseb hon a P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm, a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am y wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg cyn penderfynu a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y deisebau.
Cytunodd y Pwyllgor i dderbyn cynnig y Gweinidog o ddiweddariad pellach maes o law ac i ystyried camau gweithredu pellach bryd hynny.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i aros am farn y deisebydd am hyn cyn ystyried unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gadw llygad ar y mater hwn nes gweld canlyniad ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar waharddiad, cyn ystyried unrhyw gamau pellach y gallai fod angen eu cymryd ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chomisiynydd Plant Cymru a chytunodd ar y camau a ganlyn:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ymateb yn ysgrifenedig i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, gan nodi'r ymrwymiad y mae hi wedi'i fynegi i gydraddoldeb rhwng y rhyweddau a bod yn fwy agored, ond gan ofyn am syniad mwy eglur o'r amserlenni ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r gofynion ar gyrff cyhoeddus i wneud adroddiadau.